Skip to main content

Bydd amser eich cais yn dod i ben cyn bo hir

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • y cyfeiriad yn y DU lle rydych wedi cofrestru i bleidleisio
  • eich rhif Yswiriant Gwladol neu ddogfennau adnabod eraill, er enghraifft, pasbort
  • dyddiad penodol yr etholiad neu’r refferendwm yr hoffech gael pleidlais postal ar ei gyfer, os mai dim ond unwaith yr hoffech gael pleidlais postal
  • llun o’ch llofnod wedi’i ysgrifennu â phin ysgrifennu yn ystod y cais hwn

Rhaid i’ch llofnod fodloni’r gofynion canlynol:

  • rhaid iddo gael ei ysgrifennu mewn inc du ar bapur gwyn plaen
  • rhaid iddo edrych yr un peth ag arfer
  • ni ddylid ei ysgrifennu â stylus neu fys ar sgrin
Efallai y byddai’n haws i chi baratoi llun nawr, neu wneud cais ar ffôn symudol â chamera.

Cael help i lanlwytho llun o’ch llofnod

Os na allwch ddarparu llofnod neu lofnod sydd bob amser yn edrych yr un peth, gallwch wneud cais i hepgor y llofnod o fewn y gwasanaeth. Bydd eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol yn penderfynu a ydych yn gymwys.

Os na allwch lanlwytho llun, lawrlwythwch a llenwch ffurflen gais am bleidlais bost (yn agor mewn tab newydd).